O! deffro'n foreu, f'enaid gwan, Ar doriad cynta'r dydd, A llwyr gysegra ddyddiau d'oes I'r gwrthddrych goreu sydd. Câf yfed yma gariad pur, Na phrofodd cnawd mo'i ryw, Ac ymddifyru uwch y byd, Ar bur bleserau Duw. Mi flinais yfed dyfroedd sur, Teganau daear lawr; Ni fyddaf hapus, ond wrth flas Pleserau'r nefoedd fawr. Uwch cyrhaedd pob serchiadau gwael Yw'r cariad pur ei flas Ag sydd yn llifo'n loyw ffrwd O iachawdwriaeth gras. Yma dymunwn dreulio'm hoes, O fore hyd brydnawn, Lle cawn i wylo cariad pur, Yn ddagrau melys iawn. Yma dymunwn :: Dymunwn yma dreulio'm hoes :: dreulio f'oes
Tonau [MC 8686]:
gwelir: |
Oh, awaken in the morning, my weak soul, At the earliest break of day! And completely consecrate the days of thy life To the best object there is. I may get to drink here pure love, The kind which flesh has not experienced, And to take delight above the world, In the pure pleasures of God. I wearied of drinking bitter waters, Of the trinkets of earth below; I will not be happy, except with the taste Of the pleasures of great heaven. Above the reach of all base affections Is the love with a pure taste And which is flowing as a bright stream Of the salvation of grace. Here I request to spend my life, From morning until afternoon, Where I may get to weep pure love, In very sweet tears. :: :: tr. 2015 Richard B Gillion |
|